
Dros y penwythnos (Ionawr 13eg- 14eg), mi fydd Menter Iaith Conwy yn rhan o ddigwyddiad Cymerwch Ran, Venue Cymru, Llandudno. Yno mi fydd y Fenter yn lansio eu Llyfryn Hyrwyddo Addysg Gymraeg Sir Conwy, ‘Y Gorau o Ddau Fyd’.
Wrth wneud cais am le mewn ysgol i’ch plentyn, mae hi werth ystyried y manteision y gall addysg Gymraeg ei gynnig.
Mae’r Llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am y manteision addysg Gymraeg/ dwyieithog hynny, yn ateb unrhyw bryderon a allai fod gan riant wrth ystyried gyrru eu plentyn i ysgol cyfrwng Gymraeg, ynghyd â gwybodaeth am y sefydliadau Cymraeg ac adnoddau a allai fod o gymorth i deuluoedd ar eu siwrnai o gyflwno’r Gymraeg i’w plentyn.
I gyd-fynd gyda’r Llyfryn hwn, mae gwefan Addysg Gymraeg Sir Conwy wedi’i chreu gyda gwybodaeth pellach. Yno, gwelir gopi digidol o’r Llyfryn Hyrwyddo Addysg Gymraeg.
Meddai Meirion Davies, Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy:
Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr i Sion Jones am ddylunio’r Llyfryn, i’r teuluoedd sydd wedi’u rhannu eu profiadau nhw o fynychu addysg Gymraeg ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu tuag at y Llyfryn mewn rhyw ffordd. Diolch hefyd i Gronfa Glyndŵr ac Adran Addysg Cyngor Conwy am y gefnogaeth ariannol.
Fel rhan o’r digwyddiad yn Venue Cymru, mi fydd Sioe Taith Yr Iaith, Mewn Cymeriad yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, Ionawr 13eg yn y Neuadd am 11.15am. Yna, ar ddydd Sul, Ionawr 14eg yn y Ddarlithfa mi fydd Sgwrs gyda’r newyddidurwr, Maxine Hughes. Yn wreiddiol o Sir Conwy, mae Maxine Hughes bellach yn byw yn yr UDA ond yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg o dydd o ddydd yn ei gwaith ac adref gyda’i phlant – ac yn amlwg yn gweld budd o fod yn gallu siarad y Gymraeg.
Felly, cofiwch ddod draw i Venue Cymru yn ystod y penwythnos i ddysgu mwy am addysg Gymraeg ac i fwynhau’r amrywiaeth o arlyw sydd wedi’i drefnu ar eich cyfer.

