Mae gŵyl Llanast Llanrwst yn ôl eleni am y tro cyntaf ers blynyddoedd… ac yn dathlu 20 mlynedd o Llanast Llanrwst!
Er bod y pandemig wedi amharu ar yr ŵyl ers sawl blwyddyn bellach, mae Llanast Llanrwst wedi parhau i gynnal digwyddiadau megis dramâu Theatr Bara Caws, gigiau amrywiol heb anghofio Cabarela, ond eleni, mae’r ŵyl yn ôl ac rydym yn edrych ymlaen i greu bwrlwm a llenwi’r dref gydag arlwy o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan – bydd rhywbeth at ddant pawb!
Un o sylfaenwyr yr ŵyl 20 mlynedd yn ôl yw Meirion Davies;
“Roedden ni’n awyddus i roi Llanrwst ar y map a chynnig rhywbeth i bobl yn wyneb llymder y Gaeaf, ond mae hefyd wedi newid agwedd llawer o bobl tu ag y Gymraeg sydd yn cael ei weld fel rhywbeth da i fusnes yma. Dwi’m yn neud gymaint efo’r ŵyl erbyn hyn ond mae’n wych gweld criw ifanc yn rhedeg yr ŵyl a rhoi stamp eu hunain arno.”
Byddwn yn dechrau’r ŵyl ar y nos Wener gyda gig Candelas ac Yr Anghysur yn Y Clwb, Llanrwst – diolch o galon i bawb sydd wedi prynu tocyn, mae’n anhygoel fod y tocynnau wedi gwerthu allan mewn 3 awr yn unig! I ychwanegu at y bwrlwm ar y nos Wener, mi fydd Cyngor Tref Llanrwst yn troi goleuadau Nadolig y dref ymlaen ar y sgwâr.
Bore dydd Sadwrn mi fydd yna ddisgo ar gyfer y plant yng Nghanolfan Glasdir (Llyfrgell Llanrwst), ac mi fydd Sion Corn yn gwneud ymweliad. Bydd hefyd Taith Gerdded Natur ar gyfer siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl yn cychwyn o Eglwys St Grwst am 10am, a hynny dan arweiniad Cymdeithas Edward Llwyd. Yna bydd cerddoriaeth byw drwy gydol y prynhawn mewn aml dafarndai yn y dref – Gwesty’r Eryrod, Pen y Bryn, New Inn a Llywelyn’s. Artistiaid sy’n chwarae ar y dydd Sadwrn ydi, Meinir Gwilym, TewTewTennau, Lastig Band, Mynadd, Hap a Damwain a chriw lleol yn arwain ar y sesiynau gwerin. Mae hyn oll am ddim!!
Bydd gig Dafydd Iwan a Garry Hughes yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy ar y nos Sadwrn, hefyd yn rhan o’r ŵyl, ac yna bydd disgo yn Llywelyn’s i orffen diwrnod llawn cerddoriaeth Gymraeg. Os nad ydych wedi cael digon, mi fydd yna seisynau ‘jamio’ ar y dydd Sul mewn gwahanol dafarndai yn y dref. Am yr holl ddiweddariadau am yr Ŵyl, ewch draw i dudalen Facebook Llanast Llanrwst. Mae am fod yn chwip o benwythnos!
Un o brif amcanion Llanast Llanrwst ydi darparu digwyddiadau a cherddoriaeth Gymraeg ar gyfer trigolion Llanrwst a’r cyffiniau, ond hefyd cefnogi busnesau lleol a chynnwys y dref gyfan yn rhan o’r ŵyl a threfniadau Llanast gydol y flwyddyn.
Dywedodd Hedd Fôn un o drefnwyr mwyaf diweddar yr Ŵyl;
“Mae 20 mlynedd o ddigwyddiadau Llanast Llanrwst yn rhywbeth i’w ddathlu, ac felly gobeithio y daw nifer ohonoch chi draw i ddathlu’r garreg filltir yma gyda ni. Edrych ymlaen i’ch gweld chi ar y 1af a’r 2il o Ragfyr!”