RAS 123

Mai 12, 2020 | Digwyddiadau, Newyddion | 0 comments

#RAS123 πŸ˜…πŸƒβ€β™‚οΈπŸƒβ€β™€οΈπŸšΆβ€β™‚οΈπŸšΆβ€β™€οΈπŸŒˆβ€οΈπŸ΄σ §σ ’σ ·σ ¬σ ³σ Ώ

Roedd Ras yr Iaith i fod i ymweld Γ’ thref Llandudno eleni – ond nid oes angen i ni boeni, gan ein bod yn dod a #RAS123 atoch chi!!

Helpwch ni yn ymgyrch genedlaethol y Mentrau Iaith i gyrraedd ein targed o Β£7,000 o bunnoedd, fydd yn cael ei ddyrannu i elusennau’r byrddau iechyd yng Nghymru – ein elusen lleol ni yw Awyr Las. Rydym yn hynod werthfawrogol o’r gwaith gwych mae’r gweithwyr allweddol yn ei wneud yn ystod y cyfnod heriol hwn felly dyma ffordd fechan o ddangos ein gwerthfawrogiad ni. πŸ’™

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

1) rhedeg neu gerdded 1 milltir neu fwy

2) enwebu 2 berson neu fwy

3) cyfrannu Β£5 neu fwy trwy ddilyn y linc hwn

Cofiwch rannu eich ymgais ar y gwefannau cymdeithasol, gan hashtagio #RAS123 a thagio ni, @miconwy yn eich neges. Rydym eisiau gweld pa mor bell mae pawb dros Gymru wedi rhedeg erbyn diwedd mis Mai! ✨

Dyma gynigion staff a chyfeillion Menter Iaith Conwy! POB LWC I CHI GYD 🌈❀️

Β Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tΕ· ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.