*SWYDD WAG* – Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Hyd 25, 2024 | Uncategorized @cy | 0 comments

Ar dan dros y Gymraeg ? Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad blaengar sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?

Swyddog Maes Ardal Wledig (Dyffryn Conwy) cyfnod mamolaeth.

Fel rhan o dîm swyddogion maes y Fenter byddwch yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal Dyffryn Conwy. Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys  gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal (yn cynnwys Llanast Llanrwst a Phenmachno) o fewn y diriogaeth.

Cyflog:  rhwng £24,702 i £25,119 (pro rata) a phensiwn.

Oriau: Rhwng 14 a 21 awr yr wythnos( i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)

Gwylia: Cychwyn ar 24 dydd. Dydd Gŵyl Dewi a rhwng Nadolig a Chalan yn ychwanegol.

Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst a gweithio hyblyg o adref.

Am fanylion a disgrifiad swydd neu sgwrs cysylltwch efo meirion@miconwy.cymru

Neu ewch i’r wefan https://miconwy.cymru

Dyddiad Cau 25ain Tachwedd. Cais drwy lythyr a CV.

Swydd Ddisgrifiad  Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

1.         Cefndir

1.1      Sefydlwyd Menter Iaith Conwy ym mis Medi 2003 yn dilyn diddymu Menter Iaith Dinbych-Conwy a fu mewn bodolaeth ers 1998. Mae dalgylch y Fenter yn cydweddu â ffiniau’r Cyngor Sir sydd yn ymestyn o’r glannau i berfeddion cefn gwlad.

1.2      Prif nod y Fenter yw hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn ffiniau Sir Conwy. Cyflawnir hyn drwy’r amcanion isod:-

  • Normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg drwy ymestyn y cyfleoedd sydd ar gael i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd
  • Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr ddysgu’r Gymraeg ac i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth ohoni
  • Sicrhau fod yr holl ystod o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac addysgiadol yn cael eu cynnal yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • Codi ymwybyddiaeth o’r iaith ymhlith trigolion y sir a chynyddu ei phroffil cyhoeddus.

1.3      Mae gweithgareddau’r Fenter yn cynnwys:

  • Cynorthwyo’r sector gwirfoddol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
  • Hwyluso gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgiadol i bobl o bob oed
  • Darparu cyfleoedd hamdden i blant a phobl ifainc
  • Cynyddu’r defnydd o’r iaith a chodi hyder siaradwyr Cymraeg
  • Annog y di-Gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith a hyrwyddo cynlluniau i gymhathu mewnfudwyr
  • Darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol
  • Hyrwyddo ymgyrchoedd marchnata i godi proffil yr iaith
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni newydd a darpar-rieni o bwysigrwydd trosglwyddiad iaith yn y cartref
  • Hyrwyddo addysg Gymraeg
  • Gweithredu fel canolfan wybodaeth ac adnoddau
  • Gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus ar gynlluniau strategol sy’n effeithio ar gyflwr yr iaith
  • Cyfrannu i strategaethau adfywio cymunedol ac economaidd
  • Codi proffil y Fenter yn y wasg a’r cyfryngau
  • Cydweithio â Mentrau Iaith eraill yn rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn rhannu arferion da
  • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith

Atebolrwydd:

Bydd y Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy) yn atebol o ddydd i ddydd i’r Prif Swyddog a thrwyddo Bwyllgor Rheoli Menter Iaith Conwy.

Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:

Gwaith Maes

  • Hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardaloedd gwledig Sir Conwy
  •  Annog mewnfudwyr i’r ardal i ddysgu Cymraeg
  • Cynnal a chynorthwyo Pwyllgorau Ardal Llanrwst, Capel Garmon, Penmachno a Glan Conwy eu cynorthwyo i adnabod anghenion eu cymunedau. Ei cynorthwyo i drefnu gweithgareddau sydd yn cryfhau defnydd o’r Gymraeg Gymraeg. Ystyried sefydlu pwyllgorau newydd lle mae yna alw ac fod adnoddau yn caniatáu
  • Ffurfio partneriaethau lleol gyda mudiadau megis y Ffermwyr Ifainc, Merched y Wawr, yr Urdd, Mudiad Ysgolion Meithrin, Papurau Bro, er mwyn darparu cyfleoedd cymdeithasol i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg
  • Sicrhau bod cyfleodd ar gael i blant a phobl ifanc i gael profiad o weithgareddau cyfrwng Cymraeg
  • Datblygu hyfedredd i sicrhau ffynonellau nawdd ychwanegol er mwyn ymestyn y gwaith ar draws yr ardaloedd gwledig
  • Darganfod a gweinyddu cronfeydd ariannol bychain a chanolog er mwyn cynorthwyo’r cynllun (cynnigir hyfforddiant).
  • Cynorthwyo gyda gwaith cyffredinol y Fenter gan gynnwys cyflwyno ceisiadau am bach am nawdd ar gyfer prosiectau
  • Cynorthwyo efo clybiau ieuenctid /aelwydydd
  • Hyrwyddo gwaith y menter trwy’r wasg a chyfryngau cymdeithasol
  • Rheoli staff llawrydd sydd yn weithredol efo cynlluniau gwahanol a chlybiau ieuenctid /aelwydydd
  • Paratoi asesiadau risg ar gyfer digwyddiadau maes (cynnigir hyfforddiant).

Rhinweddau Personol Dymunol

 Gwaith Maes

  • Yn berson ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo
  • Yn gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol
  • Yn gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol
  • Yn gallu cydweithio ac eraill
  • Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Yn rhugl ddwyieithog – ar lafar Cymraeg a Saesneg
  • Yn meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth dda
  • Y gallu i yrru car yn hanfodol
  • Bydd rhaid cofrestru gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG a Mynychu hyfforddiant Amddiffyn Plant a Gwaith Ieuenctid.
  • Byddai profiad o weithio gyda phlant a phobl ifainc yn fanteisiol.
  • Profiad o weinyddu cyllid yn ddymunol.

Amodau a Thelerau:

4.1  Bydd cynaladwyedd hir-dymor y swydd yn ddibynnol ar sicrhau cyllid digonol ac ar adolygiadau perfformiad boddhaol. Bydd y cytundeb cychwynnol yn cael ei gynnig hyd diwedd y flwyddyn ariannol presennol efo golwg ar ei ymestyn. Swydd dros cyfnod mamolaeth yw hon.

4.2      Lleolir y swydd yn swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst. Mae modd gweithio yn hyblyg at hyd at 50% o adref efo cytundeb y Prif Weithredwr.

4.3      Oriau gwaith arferol y swyddfa yw 9.00 a.m. – 5.00 p.m., ond oherwydd natur y swydd disgwylir i’r sawl a benodir weithio’n aml gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Cynigir amser in lieu yn lle hynny drwy gytundeb â’r Prif Swyddog.

4.4      Cynigir 24(pro rata) diwrnod o wyliau yn ystod y flwyddyn yn ychwanegol at wyliau statudol – bydd hyn yn codi i 29(pro rata) diwrnod am bob blwyddyn o wasanaeth. Mae’r cyfnod rhwng Nadolig a Chalan yn cael ei rhoi fel gwyliau ychwanegol yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi.

4.5      Telir cyflog ar y raddfa  £24,702 i £25,119 pro rata yn ddibynol ar brofiad. Oriau’r Swydd, rhwng 14 a 21 awr yr wythnos, i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus. Byddwn yn cyfrannu tuag at Gynllun Pensiwn Menter Iaith Conwy a thelir costau teithio ar 52.2c y filltir.

Ffôn – (01492) 642357

E-bost – Meirion@miconwy.cymru

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.