Twrw yn y Tarw yn dod â’r gymuned ynghyd yn Abergele

Medi 22, 2026 | Uncategorized @cy | 0 comments

Yr Anghysur

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, daeth gŵyl gerddoriaeth Gymraeg, ‘Twrw yn y Tarw’, yn ôl i dafarn The Bull yn Abergele eleni. Wedi’i threfnu gan bwyllgor gwirfoddol Criw Bro Gele ar y cyd â Menter Iaith Conwy, gyda chefnogaeth ariannol gan gynllun Noson Allan, bu’r noson yn llwyddiant, gyda phobl o bob oedran yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Cafwyd gwledd o adloniant, gyda Elliw Jones yn agor y noson, ac yna Dylan Jones a’r Band, Hafna ac Yr Anghysur, cyn i Morgan Elwy a’r Band gloi’r noson. Roedd y noson yn gyfle gwych i bobl fwynhau’r Gymraeg a cherddoriaeth fyw yng nghanol y dref.

Dywedodd Lauren Frost, aelod o bwyllgor Criw Bro Gele a phrif drefnydd y noson: “Roedd yr adborth mor gadarnhaol eto eleni, ac roedd yn wych gweld pobl o bob oedran yn dod at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yng nghanol Abergele.”

Mae’r digwyddiad yn rhan o ystod ehangach o weithgareddau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu cynnal yn Abergele gyda chefnogaeth Criw Bro Gele a Menter Iaith Conwy. Mae’r rhain yn cynnwys cwisiau misol, twmpath dawns a thaith gerdded, gan roi cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r rhai sydd am fagu hyder ddefnyddio’r iaith mewn awyrgylch gymdeithasol ac anffurfiol.

Mae Menter Iaith Conwy yn gweithio’n agos gyda phwyllgorau ardal gwirfoddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn rheolaidd mewn cymunedau ar draws Conwy.  Mae Abergele yn un o’r pwyllgorau yma, mae na 12 arall ar draws y Sir. Yn Abergele, mae’r gwaith lleol yma hefyd wedi cynnwys presenoldeb stondin Menter Iaith Conwy yn Diwrnod Hwyl Abergele, a drefnir gan Gyngor Tref Abergele, gan roi cyfle i gwrdd â thrigolion a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.

Dywedodd Elliw Jones, Swyddog Ardal Menter Iaith Conwy: “Ers ymuno â’r Fenter ym mis Chwefror eleni, dwi wedi mwynhau cael y cyfle i gydweithio efo pobl newydd ac i ddod i ‘nabod y gymuned yn Abergele. Mae’r gwaith efo Criw Bro Gele yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo pobl frwdfrydig yn dod at ei gilydd. Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach yma dros y misoedd nesaf.”

Mae’r gwaith lleol hwn yn cyfrannu at uchelgais Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, drwy greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned.

Diolch i gyllid Amod 106 a chymorth Cyngor Tref Abergele, mae’r swyddog ardal yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i ddatblygu a chefnogi gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog. Mae hyn yn cynnwys cefnogi mentrau lleol, trefnu a hyrwyddo digwyddiadau, a gweithio gyda gwirfoddolwyr i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan weladwy a naturiol o fywyd cymunedol Abergele.

Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Alan Hunter ar ran Cyngor Tref Abergele: “Mae Cyngor Tref Abergele yn hynod falch o gefnogi gwaith Menter Iaith ar draws ein hardal. Mae eu hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant drwy greu cyfleoedd bob dydd i bobl o bob oed yn helpu i gryfhau ein hunaniaeth leol a’n cymuned.”

Mae’r gwaith hwn yn dangos sut y gall buddsoddiad lleol gefnogi pobl i greu gweithgareddau neu ddigwyddiadau sy’n agored i bawb, gan gryfhau’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd cymunedol Abergele. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elliw Jones drwy e-bost: elliw@menteriaithconwy.cymru.