
Yn dilyn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Academi
Berfformio Glannau Conwy yn mynd o nerth i nerth. Mae’r Academi Berfformio yn
rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau sgrîn a llwyfan a hynny o dan
arweiniad actorion a pherfformwyr proffesiynol.
Cafwyd tymor llwyddiannus cyn toriad yr ysgolion am yr haf. Gwelwyd plant a phobl
ifanc ar draws sir Conwy yn ymuno yn yr Academi. Daeth y tymor i ben gyda noson
wobrwyo a chyfle i deulu a ffrindiau ddod ynghyd i wylio recordiad o’u perfformiad
diwedd tymor.
Mi fydd yr Academi yn ail-gychwyn ym mis Medi ar gyfer tymor yr Hydref a hynny ar
y nosweithiau Mawrth canlynol: 16eg, 23ain, 30ain o Fedi a 7fed, 14eg, 21ain o
Hydref, 4ydd, 11eg, 18fed, 25ain o Dachwedd a’r 2il a 9fed o Ragfyr. Mae’r sesiynau
yn cael eu cynnal yn Yr Hen Ysgol, Abergele, LL22 7BP, gyda oedran cynradd yn
cyfarfod rhwng 4:30pm – 6:15pm a’r oedran uwchradd yn cyfarfod rhwng 6:30 –
7:45pm.
Cost y sesiynau yw £5 yr un neu mae modd talu am yr holl sesiynau ar gychwyn
tymor yr Hydref am £55.
Os oes gennych chi blentyn neu blant sydd wrth eu boddau yn perfformio, yna,
Academi Berfformio Glannau Conwy yw’r lle i chi! Am fwy o wybodaeth neu os
hoffech gofrestru eich plentyn cysylltwch ag eryl@miconwy.cymru.




