Fel rhan o brosiect Dathlu Treftadaeth Llanrwst, bu criwiau o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol Bro Gwydir yn brysur iawn yn creu ac yn ymarfer eu datganiadau o chwedlau a hanesion lleol, i’w perfformio yn y Caerdroia yng Nghoedwig Gwydyr ar yr 11eg o Ebrill.
Cafodd yr elfen yma o’r prosiect ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a cafodd y plant eu harwain a’u hyfforddi gan Mair Tomos Ifans, Fiona Collins a Theatr Dan y Coed. Buont yn ymarfer yn galed am sawl wythnos cyn y diwrnod mawr, ac roedd y perfformiad yn y Caerdroia yn werth ei weld! Dyma i chi flas o’r lluniau – edrychwch allan am y fideo fydd ar gael cyn bo hir.
- Tywyswr y Daith
- Bardd Llanrwst
- Dafydd ap Siencyn
- Dafydd ap Siencyn
- Dafydd ap Siencyn
- Ceirw Llanrwst
- Morgan ap Morgan
- Wiliam Pencraig Inco
- Rhys a Meinir
- Blodeuwedd