Newyddion a Digwyddiadau
Swydd Wag gyda Mentrau Iaith Cymru – Rheolwr Partneriaethau
**MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y SWYDD HON BELLACH WEDI BOD**
Digwyddiadau Mawrth y Fenter
Mae gennym ni ddigwyddiadau di-ri ar y gweill ym mis Mawrth. Cofiwch am y digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi ar y sgwâr, dydd Sadwrn yma!!
Americanwr i hyfforddi fel cwnselydd Cymraeg ar ôl dysgu’r iaith mewn blwyddyn
"Nes i ganfod cariad dros wbath o'dd ddim yn person." Yn wreiddiol o dalaith Wyoming yn yr Unol Daleithiau, mae Parker, 32 oed, wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg mewn cwta flwyddyn. Fe ddechreuodd yr Americanwr ar ei daith dysgu Cymraeg ym mis Tachwedd 2023 ar ôl iddo...
Cymuned yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Llanrwst
Mae grŵp cymunedol yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Sir Conwy er mwyn ‘cynnal a chefnogi’r iaith’ yn yr ardal. Mae Siop Bys a Bawd wedi bod yn rhan o gymuned Llanrwst ers 50 mlynedd, a bellach, dyma’r unig siop lyfrau Gymraeg yn y sir gyfan. Mae adeilad y...
Digwyddiadau Chwefror y Fenter
*** Lleoliad y Panad a Sgwrs ar y 3ydd bellach wedi'i gadarnhau *** Mae mis hirach na hir Ionawr yn dirwyn i ben o'r diwedd ond mae gennym ni lu o ddigwyddiadau wedi'u trefnu i'ch difyrru ym mis Chwefror. Estynnwch eich dyddiaduron yn barod!
Digwyddiadau Ionawr y Fenter
Mae’n tynnu at ddiwedd y flwyddyn ond mae gennym ni lu o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn newydd yn barod. Cofiwch wneud nodyn ohonyn nhw yn eich dyddiaduron newydd ar gyfer 2025
Gig Gwilym Bowen Rhys, Ionawr y 23ain
Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi’r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru. Mae’r gylchdaith, sydd wedi’i gefnogi gan gynllun Noson Allan, yn lansio ar yr 23ain o Ionawr yn Neuadd Llannefydd. Bwriad...
Digwyddiadau Rhagfyr y Fenter – Dewch yn llu i sgwrsio a chanu nerth eich pen!
** Rhestr wedi'i diweddaru **
Holl ddigwyddiadau Llanast Llanrwst penwythnos yma
Cymrwch olwg ar ein hamserlen lawn isod - bydd y dref yn ferw o brysurdeb ac mae rhywbeth at ddant pawb!
Pwy sy’n dwad dros y bryn yn ddistaw ddistaw bach…? Siôn Corn wrth gwrs!
Dewch draw i weld y dyn ei hun yn y Disgo i Blant yng Nghlwb Llanrwst, dydd Sadwrn, Tachwedd y 30ain